Cyfweliad, Doreen Lillian Maggie Bridges (nee Moses). Lleisiau o Lawr y Ffatri
Disgrifiadau
Cyfweliad gyda Doreen Bridges am ei gwaith yn Cora Crafts - Pengam, Switchgear - Pontllan-ffraith, Golmets - Pontllan-ffraith , Smith's/Valeo/Delanare Wiper Systems Ltd. -
Gadawodd Doreen yr ysgol yn 15+ oed (1957) a dechrau yn y storfa yn Ffatri Cora Crafts, oedd yn gwneud gemwaith. Deuai dynion i mewn i nôl cerrig. Byddai’n helpu pwyso powdwr aur ar gyfer y platio aur hefyd. Roedd yn defnyddio’i hymennydd i wneud yr archebion. Roedd ei thad yn strict iawn am fynd allan - dim minlliw. Âi ei ffrindiau ar y mynci- pared. Bu yno am 6 mis yn unig cyn symud i Switchgear - ffatri reit fawr, drilio, gwrthsoddi (gwneud gwrymiau i’r sgriwiau) a 'de-burring'. Gwnâi’r ffatri switshis. Ei mam a’i phecyn pae. Cefnogodd yr undeb hi ar fater codi pwysau trwm. Cafodd ei symud o’r swydd hon. Radio a chanu i’w hunain. Effeithiodd y sŵn ar ei chlyw. Roedd y dynion yn cael eu hyfforddi ac yn cael tâl uwch - annhegwch. Erbyn cyfnod y Ddeddf Tâl Cyfartal (1970), roedd yn gweithio’n Valeo. Ond nid oeddent yn cael tâl cyfartal. Arhosodd yn Switshgear am flwyddyn, ac aeth i Golmets. Gadawodd i gael ei phlentyn cyntaf yn 1965. Gwnâi’r ffatri fyrddau smwddio a stolion cegin. Am gyfnod bu’n torri asbestos gwyn - dim mygydau. Gallai ‘ei weld e yn yr awyr’. Aeth i Valeo yn 1977. Bu’n gynrychiolydd undeb yno gyda’r GMB - brwydr yn erbyn defnyddio dip arbennig oedd yn achosi cancr. Gwnâi armatyrau ar gyfer golchwyr sgriniau car. Bu’n rhaid iddi negydu codiadau cyflog hefyd. Cynghorodd y menywod i dalu stamp llawn. Roedd menywod yn cael eu trin yn annheg. Carnifal Nadolig ar lorri Switchgear - canu mewn côr. Ymddeolodd Doreen yn 1995.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment