Skip to main content

Cyfweliad, Marjorie (Marge) Rita Evans. Lleisiau o Lawr y Ffatri

Disgrifiadau

Cyfweliad gyda Marge Evans am ei gwaith yn Sobells - Rhigos, Welsh Trust - Rhigos, Murphys?

Gadawodd Marjorie yr ysgol yn 14 oed (1947) a dechrau yn Sobell’s. Dechreuodd wneud un 'coil' ar y tro a datblygu i wneud 10 ar y peiriant Westminster - peryglus am ei fod yn fawr ac yn gyflym iawn. Roedden nhw’n gwneud setiau teledu llawn gan gynnwys y cistiau yno. Pan aeth hi yno roedden nhw’n gwneud 'wirelesses' a gramoffonau nid setiau teledu. Roedden nhw’n defnyddio ffatri Murphy’s gerllaw i orfodi Sobell’s i roi gwell bonysau iddyn nhw. Tan iddyn nhw briodi rhoddai hi a’i gŵr eu pae i’w mamau. Cafodd ddamwain ond dim tâl salwch nac iawndal. Roedd gan ffatrïoedd enw gwael ond roedd hi’n ‘caru’’r gwaith. Roedd dynion a menywod yn gweithio ar y lein. Gwynt cŵyr, lle enfawr â baeau. Gofynnwyd iddi fynd i weithio yn Welsh Trust i hyfforddi gweithwyr ar y peiriannau mawr. Roedd y peiriannau ‘yn rhan ohonyn nhw’. Er bod hynny’n beryglus doedden nhw ddim yn hoffi gwisgo twrbanau. Undeb - y GMBU. Bu’n fforman am gyfnod ond dychwelodd at y peiriant. Dawnsio ar y penwythnosau. Dawns Nadolig yn y cantîn. Arhosodd yn Sobell’s am 12 mlynedd a gweithiodd yn Welsh Trust am 5 mlynedd. Gadawodd pan gafodd ei mab. Yn WT a oedd yn ffatri lai, roedden nhw’n weindio coiliau ar gyfer 'wirelesses' a theclynnau clyw. Ni allai fforddio teledu pan oedd yn Sobell's. Amser a symud - gweithiai hi ar gyflymder normal.

Owner:
Archif Menywod Cymru / Women's Archive Wales
Crëwr:
Archif Menywod Cymru / Women's Archive Wales
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Archif Menywod Cymru 2013
Eitem wedi’i llwytho:
7/2/2017
Gwelediadau:
1256
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment