Skip to main content

Cyfweliad, Jill Williams. Lleisiau o Lawr y Ffatri

Disgrifiadau

Cyfweliad gyda Jill Williams am ei gwaith yn Lewis & Tyler Ltd., Gripoly Mills, Sloper Road - Caerdydd/ Cardiff

Gadawodd Jill yr ysgol yn 16 oed (1968) a dechrau yn Lewis and Tyler. Roedd y sŵn yn anghredadwy (Gwyddiau trydanol a’n gweithio â llaw). Bu’n crïo wrth feddwl am aros yno. Bu yno am 10+ mlynedd. At hyn gweithiai gartref yn trwsio beltiau. Disgrifia ac eglura’r gwaith crefftus yn fanwl iawn. Caledenau ar y dwylo - dim menig. Roedd fel rhwyfo. Agwedd garedig - anrhegion priodas. Gwnâi un grŵp feltiau o rwber ar wyddiau bach. Gwnâi’r dynion bibau a phibelli ar gyfer awyrennau. Ar ôl cael y plant bu’n gweithio yno’n rhan amser. Y stori am y fforman a’i gi. Gwaith ar dasg a gwneud eich cwota o feltiau. Rhai yn rhuthro a safon wael y beltiau. Disgrifia fownsio fyny ac i lawr yn gwehyddu. Rhai peryglon - baglu, pwysau’n syrthio. Helpu’i gilydd. Roedden nhw i gyd yn hoffi un gwŷdd - gwnâi well beltiau. Roedd hi eisiau cadw’i gwifrau ei hun felly byddai’r fforman yn eu cadw iddi dros y gwyliau. Patrymau gwahanol: plaen, o chwith, pwyth pennog a.y.y.b. Âi hi â’i chwaraewr recordiau i’r gwaith. Ei rhif clocio i mewn oedd 60.Tripiau a llawer o hwyl. Yn ddiweddarach daeth llawer o weithwyr Indiaidd (Kenya) yno - y diclein yn broblem a chaeodd y ffatri am gyfnod. Sonia am briodas wedi’i threfnu. Bu’n gweithio fel menyw ginio hefyd - stori’r bag o arian. Gwaith ei mam a’i thad. Dengys y mesur a’r nodwyddau oedd ganddi. Effaith y gwaith ar ei chlyw. Rhagor o fanylion am dechneg y gwaith.

Owner:
Archif Menywod Cymru / Women's Archive Wales
Crëwr:
Archif Menywod Cymru / Women's Archive Wales
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Archif Menywod Cymru 2013
Eitem wedi’i llwytho:
7/2/2017
Gwelediadau:
738
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment