Cyfweliad, Sandra Cox. Lleisiau o Lawr y Ffatri
Disgrifiadau
Cyfweliad gyda Sandra Cox am ei gwaith yn Freemans Cigars
Gadawodd Sandra yr ysgol yn 14 oed ond wnaeth hi ddim dechrau yn y ffatri tan 1973 pan oedd hi’n 22. Disgrifia wneud y sigarau a’r gwynt ar ei dwylo. Collodd un ferch dop ei bys ar y peiriant torri. Roedd yn rhaid iddynt gael gymaint o sigarau â phosibl o un ddeilen. Bu un streic yno am y gwres. Roedd eu targedau ar fwrdd du yn y ffatri. Teithiai i’r gwaith ar sgwter Vespa. Roedd dynion diogelwch yno i rwystro’r staff rhag dwyn. Caent 10 sigarét yr wythnos am ddim ac ar y Nadolig 5 sigâr a sigarennau. Cystadlodd i fod yn Miss Freeman, nid mewn gwisg nofio ond roedden nhw’n cael eu cyfweld. Gadawodd am iddi gael y sac (neu ymddiswyddodd hi).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment