Cyfweliad, Janet Taylor. Lleisiau o Lawr y Ffatri
Disgrifiadau
Gadawodd Janet yr ysgol ramadeg yn 16-7oed (1958) a gweithiodd yn Labordy Nettlefolds. Pasiodd 8 Lefel O. Roedd yn mesur elfennau gwahanol yn y dur. Gwnaeth gwrs rhyddhau am ddydd mewn Cemeg. Y bechgyn yn brentisiaid a’r merched y gwneud y gwaith caled. Dadansoddi rwtîn. Cantinau gwahanol ar gyfer lefelau gwahanol o staff. Gweithio ar samplau o shafins dur, tua 60 ar y tro. Enwa’r elfennau. Cotiau gwynion llawn tyllau. Sandalau oherwydd y gwres a dim dillad isaf. Disgrifia’r broses. Menig rwber – cafodd glefyd y croen. Peryglus oherwydd llosgiadau asid sylffwrig. Cafodd un dyn ei losgi’n ddifrifol. Câi’r bechgyn fwy o dâl. Dim undeb. Glanhau popeth yn ystod y gwyliau blynyddol. Mewn tywydd poeth byddent yn torheulo ar do fflat y ffatri ym mwrllwch y gweithfeydd dur. Roed menywod yn y swyddfeydd hefyd ond nid ar lawr y ffatri, lle roedd y ffwrneisi a’r melinau rolio. Clybiau cymdeithasol a chwaraeon. Chwarae ceulys. Ciniawau a dawnsfeydd. Parti Nadolig y lab. Digwyddiadau gwahanol I’r staff a’r gweithfeydd. Gweithiodd yno am 5 mlynedd, yna toriad ac yna yn Distillers yn y lab am gwpwl o flynyddoedd. Gwneud PVC – ei brofi a ffindio defnydd iddo. Talu’n fisol - posh. Roedd yn gweithio yna yn 1963. Dychwelodd I’r gwaith dur am rai blynyddoedd ac yna bu’n y Weinyddiaeth Amaeth am 21 mlynedd ac yn adran gyllid y Swyddfa Gymreig am 10 mlynedd.
Cyfweliad gyda Janet Taylor am ei gwaith yn Guest, Keen and Nettlefold (GKN) - Splott, Distillers - Y Barri
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment