Cyfweliad, Gweithwraig Christie-Tyler. Lleisiau o Lawr y Ffatri
Disgrifiadau
Cyfweliad gyda'r siaradwraig am ei gwaith yn Christie-Tyler - Bridgend, Western Upholstery Ltd., Coast Upholstery Ltd.. Metal Plastics - Bridgend, Stampers
Daeth teulu'r siaradwraig yn faciwîs i dde Cymru yn ystod y rhyfel. Gadawodd hi’r ysgol yn 14 oed (1942) a gweithiodd yn Woolworth’s cyn ymuno â Christie Tyler yn 1951, yn gwneud seti cartref - clustogau â fframiau metel ar linell y 'machinists'. Amrywiaeth o dasgau pan oedden nhw’n gwneud cadair. Dwedwyd wrthi am ddal y taciau yn ei cheg - gwrthododd. Roedd yn gwnïo â llaw ar gyfer Arddangosfa. Gwaith ar dasg. Gwaith dros amser a’i gŵr yn helpu yn y cartref. Hi ddechreuodd yr undeb i’r menywod a bu’n ddirprwy 'shop steward' (3-4 blynedd). Teimlai fod annhegwch yno. Roedd y dynion yn aelodau eisoes. Gorffennodd oherwydd roedd y menywod yn gwrthod dod i’r swyddfa gyda hi i ddweud eu cwynion. Materion amser a symud. Streic oherwydd eisiau gwahardd merched ar amser byr V gwneud gwaith dros amser. Tocynnau i hawlio bonysau. Bonysau enfawr i’r dynion a’r menywod. Cynilo a phrynu dillad trwy siec Provident. Streic oherwydd yr oerfel. Rhoddai’r cwmni de a chwisgi ynddo iddyn nhw! Budd y system bonysau. Clwb a chronfa gymdeithasol. Ciniawau Nadolig mawreddog yn Neuadd y Ddinas. Caerdydd. Gweithiodd gyda rhai toriadau tan ei bod yn 56 (1984). Cyflwyno wats aur i nodi 25 mlynedd o wasanaeth. Bu’n gweithio hefyd ym Metal Plastics (4-5 mis) yn gwneud clipiau clustdlysau ac yn Stampers, yn profi caniau fflip.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment