Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Gweithiodd tad Patricia yn löwr am 51 mlynedd. Gadawodd hi’r ysgol yn 15oed (1958) a dechrau yn Polikoff’s ond roedd yn casáu gwnïo. Ar ôl wythnos (dychwelodd yno’n ddiweddarach) aeth Sobell’s . Cloch yn rheoli ei bywyd. Gwneud setiau teledu - rhoi gwydr ffibr ar lewys, yna sodro. Gwelai’r cantîn yn lle ofnus. Ysmygu wrth eu gwaith. Mae gwaith ffatri yn gofyn am hunanddisgyblaeth. Menywod oedd ar y beltiau cynhyrchu. Arhosodd 2 flynedd ac yna i EMI - gweithio gyda nodwydd a weiren aur. Dim beltiau cynhyrchu. Streic oherwydd oerfel. Cael bonws oherwydd y Beatles. Gwneud darnau i chwaraewyr recordiau. Nosweithiau allan yn y Shack, cerddoriaeth fyw. Wedyn aeth hi a’i chwaer i Winchester. Ond dychwelon nhw’n ar ôl 2 flynedd i Ffatri fatris Ray-o-vac. Gwaith brwnt oherwydd y carbon. Gwneud batris. Yna’n feichiog a dychwelodd ar ôl 2 flynedd i EMI (yr un cwmni). Roedd yn 21 oed nawr. Bu’n byw ar arian poced tan ei bod yn 29. Arhosodd yn EMI am 9 mlynedd. Cafodd ei hatal o’i gwaith - hwyl Nadolig, ond aeth y ffatri ar streic a chafodd ei gwaith yn ôl. Clwb cymdeithasol EMI. Tynnu coes hwyliog. Yn ddiweddarach bu’n Harwin’s am 11 mlynedd. Diswyddwyd hi’n 53 oed (1996). Roedd y gwaith yn Harwin’s yn fân iawn - sodro eto. Dim undeb ond cael eu trin yn dda. Mae’n dal i weithio ym maes gofal yn 71 oed. Pan oedd yn EMI bu’n chwarae pêl-droed yn erbyn Polikoff’s -ar gyfer Cronfa Trychineb y Cambrian (1965). Enillon nhw - cryn stŵr.

Cyfweliad gyda Patricia Howard am ei gwaith yn Polikoffs, Ynys wen Treorci, Sobells - Aberdar, EMI - Treorci, Winchester Sausage Factory, Ray-O-Vac battery factory - Treorci, Harwin's Electronics Factory - Treorci

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw