Cyfweliad, Jim Davies . Lleisiau o Lawr y Ffatri
Disgrifiadau
Mae Jim yn siarad am ei gefndir teuluol a’r iaith Gymraeg. Aeth i Gaergrawnt i ddarllen meddygaeth. Yn y gwyliau gweithiodd yn ffatri deganau HG Stone (1956). Roedd tua 8 menyw am bob dyn. Menyw yn gynllunydd. Gweithiai yn y stafell batent - disgrifia’r broses o wneud patent ar gyfer coes tedi. Yna ai at y stampwyr, y torwyr, y pwythwyr ar y llinell, yna at y stwffwyr ac yna i’w archwilio. Merched neis a pharchus yno. Eto roedd peth tynnu coes. Yn Weston’s Biscuits (wedyn Burton's Biscuits) - roedd 'tannoy' yn chwarae 'Housewives Choice'. Yn HG Stone roedd cynllun noddwyd gan y llywodraeth ar gyfer gweithwyr anabl - dynion ‘cerdyn gwyrdd’. Gwahaniaethau dosbarth yn y ffatri. Gweithiodd Jim yn y ffatri fisgedi a’r slogan ‘6 million eaten everyday!’ hefyd fel gwas yr iard, yn fflatio tuniau gwag yn fetel sgrap. Cofia'r menywod yn canu; rhaniad dosbarth rhwng gweithwyr y swyddfa a’r llawr. Bu’n Pilkington’s Glassworks hefyd un gwyliau fel gwas yr iard eto; gwaith caled ac undonog. Llawer o dorri gwydr - gwaith peryglus. Trwy weithio yn y ffatrïoedd mae’n gwerthfawrogi sut brofiad yw 'bod ar waelod y pentwr.’ Roedden nhw’n bobl uniongyrchol, ffraeth a ffres. Bu’r profiad o werth iddo yn ei fywyd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment