Skip to main content

Cyfweliad, Sonia Gould. Lleisiau o Lawr y Ffatri

Disgrifiadau

Roedd tad (trydanwr) a mam ('machinist') Sonia yn gweithio yn Denex. Cael pre-ffab ger y ffatri i fyw ynddo. Gadawodd hi’r ysgol yn 15 oed (1956), roedd ei thad wedi’i dysgu i ddefnyddio’r peiriannau ar foreau Sadwrn. Cafodd swydd yn y ffatri ond gwrthwynebodd yr Undeb - roedd y ffatri’n diswyddo gweithwyr. Aeth adre ond nôl yno mewn 6 wythnos. Llawer o streiciau ac un cloi allan. Yfed ar y Nadolig ac addurniadau. Dechreuodd ar wneud clytiau, ymlaen i dyllau botymau. Gwneud dillad plant > yna Harvey’s, cotiau dyffl> yna Clifford Wiilaims and Son. Gweithio yn Smiths, Rhymni ond rhy strict. Denex- gweithwyr yn dwyn darnau o siacedi i wnïo pilyn gartre a riliau cotwm. Llawer o fflwff yno. Radio a chwaraewr recordiau a chanu. Os yn priodi eich clymu at eich peiriant. Cwlwm fel chwiorydd rhyngddynt. Tyllu ei chlustiau yn y toiled. Gadawodd pan yn feichiog. Gallai wneud pob tasg yno. Roedd torri â’r gyllell fawr yn beryglus - gwaith dyn. Bywyd cymdeithasol: dawnsfeydd, cinio ’r plant a charnifal - fflôt 'Rag Trade', a gwneud sioe. Undeb y Tailor and Garment Workers - bathodyn â siswrn arno. Ysmygu’n eistedd yn y toiled. Nodwydd trwy ei bys. Gweithiodd ei mam tan yn 80 oed yn Denex ac wedyn LCR Components. Aduniad merched Denex- cwtsho. Ysgrifennu ‘I Love Elvis’ lawr coes trowsus.

Owner:
Archif Menywod Cymru / Women's Archive Wales
Crëwr:
Archif Menywod Cymru / Women's Archive Wales
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Archif Menywod Cymru 2013
Eitem wedi’i llwytho:
7/2/2017
Gwelediadau:
1217
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment