Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Gweithiodd Vicky yn Courtaulds o pan oedd yn 15 oed, am 11 mlynedd. Byddai hi wedi hoffi aros ymlaen yn yr ysgol a mynd i'r coleg ond roedd ei mam yn disgwyl iddi fynd allan i weithio. Roedd hi wedi bod yn gweithio eisoes mewn caffi yn y Rhyl o 13 oed ymlaen. Dechreuodd hi mewn ffatri o'r enw Mayfair, a oedd yn gwneud cotiau 'duffle' ar lawr uchaf safle Courtaulds ond yn annibynnol ar y cwmni. Caeodd y ffatri hon a chymerwyd hi drosodd gan Courtaulds, ac aeth y gweithlu bach i Courtaulds hefyd. Roedd Vicky ar y gwaith 'coning' ac, yn nes ymlaen, daeth hi'n gynrychiolydd undeb. Symudodd i fod yn staff yn 20 oed, i'r adran astudio gwaith. Dydy hi ddim yn gallu cofio faint oedd hi'n ei ennill pan oedd hi ar lawr y ffatri, ond yn yr adran astudio gwaith roedd ei chyflog yn £ 23, mewn arian parod, a rhoddai'r pecyn pae heb ei agor i'w mam, a fyddai'n cadw'r £ 20 a rhoi £ 3 yn ôl iddi. Roedd hi'n dal i fod yn gweithio yn y caffi ar y penwythnosau a'r gwyliau banc ac yn ystod gwyliau o'r ffatri a bu'n rhaid iddi roi'r cyflog hwn i'w mam hefyd, heb ei agor. Roedd Vicky yn hoffi bod ar y staff ac roedd yn gwneud y swydd honno hyd nes iddi adael i gael ei phlant yn 1976.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw