Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Caneuon i'w canu yn y gwasanaeth croesawi gartref i Capten Philip Godsal. Ebrill 20, 1917

Capten Philip Godsal M C yn fab hynaf Uwchgapten Philip Thomas Godsal ac Ellen Henrietta Godsal Parc Iscoyd, Whitchurch. Gwasanaethodd gyda'r Oxfordshire and Buckinghamshire Light Infantry.

Ar y 26 o Awst 1914 fe glwyfwyd Philips Godsel a disgynnodd i ddwylo'r Almaenwyr. Fe anafwyd o ganlyniad ffrwydrad gan y Ffrancwyr wrth iddynt ddinistrio pont rheilffordd yn Berlamont a ddim yn rhoi digon o rybudd i’r cwmni oedd yn ei amddiffyn. Cafodd Capten Godsal ac 2il Is-gapten G T Button eu hanafu gan y ffrwydrad ac ynghyd ag un preifat cafwyd eu dal gan yr Almaenwyr tra byddant yn gorwedd mewn ysbyty maes Ffrangeg yn Avesnes. Bu'n garcharor rhyfel nes iddo ddianc Mawrth 1917.

Ar 16 Mawrth 1917 penderfynodd yr awdurdodau Almaeneg symud 130 o swyddogion Prydeinig a oedd wedi ei dal i wersylloedd eraill.

Yn ystod trosglwyddo 82 o swyddogion o wersyll yn Friedberg i wersyll yn Clausthal llwyddodd Capten Philip Godsal a Chapten Campbell i ddianc. Drwy deithio yn ystod y nos gydag ond cwmpawd a siartiau bras a chysgu dan gudd yn ystod y dydd, teithiant dros 200 milltir i ganfod eu ffordd adref. Nodir mai dim ond dod ar draws dim mwy na dwsin o bobl gwnaethynt ar y daith hir adref.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw