Skip to main content

My jorney across Germany & Holland March 20th - April 5th 1917'. Dyddiadur gan Philip Godsal am ei brofiad yn dianc o wersyll carcharorion rhyfel yn yr Almaen yn ystod WW1. D/IP/319

Disgrifiadau

Mae’r dyddiadur sydd wedi ei deipio yn manylu ar ddihangfa Capten Philips Godsal a Chapten Campbell o wersyll carcharorion rhyfel yn yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. 'My journey across Germany & Holland March 20th - April 5th 1917'

Capten Philip Godsal M C yn fab hynaf Uwchgapten Philip Thomas Godsal ac Ellen Henrietta Godsal Parc Iscoyd, Whitchurch. Gwasanaethodd gyda'r Oxfordshire and Buckinghamshire Light Infantry.

Ar y 26 o Awst 1914 fe glwyfwyd Philips Godsel a disgynnodd i ddwylo'r Almaenwyr. Fe anafwyd o ganlyniad ffrwydrad gan y Ffrancwyr wrth iddynt ddinistrio pont rheilffordd yn Berlamont a ddim yn rhoi digon o rybudd i’r cwmni oedd yn ei amddiffyn. Cafodd Capten Godsal ac 2il Is-gapten G T Button eu hanafu gan y ffrwydrad ac ynghyd ag un preifat cafwyd eu dal gan yr Almaenwyr tra byddant yn gorwedd mewn ysbyty maes Ffrangeg yn Avesnes. Bu'n garcharor rhyfel nes iddo ddianc Mawrth 1917.

Ar 16 Mawrth 1917 penderfynodd yr awdurdodau Almaeneg symud 130 o swyddogion Prydeinig a oedd wedi ei dal i wersylloedd eraill.

Yn ystod trosglwyddo 82 o swyddogion o wersyll yn Friedberg i wersyll yn Clausthal llwyddodd Capten Philip Godsal a Chapten Campbell i ddianc. Drwy deithio yn ystod y nos gydag ond cwmpawd a siartiau bras a chysgu dan gudd yn ystod y dydd, teithiant dros 200 milltir i ganfod eu ffordd adref. Nodir mai dim ond dod ar draws dim mwy na dwsin o bobl gwnaethynt ar y daith hir adref.

Owner:
Archifdy Sir y Fflint / Flintshire Record Office
Crëwr:
Captain Philip Godsal
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Captain Philip Godsal 1917
Eitem wedi’i llwytho:
10/11/2016
Gwelediadau:
1853
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment