arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Disgrifiad

Awyrlun o Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych, ar ôl ei gau, gan ddangos holl hyd a lled yr adeiladau a oedd wedi'u codi yno dros ganrif a hanner.
Y mwyaf ohonynt yw hen Wallgofdy Siroedd Gogledd Cymru yn Ninbych. Fe'i codwyd drwy danysgrifiad cyhoeddus, yn bennaf oherwydd y pryder ynghylch lles y Cymry Cymraeg a gâi eu hanfon cyn hynny i wallgofdai Lloegr. Craidd gwreiddiol yr ysbyty oedd adeilad trawiadol mewn arddull Jacobeaidd ar ffurf y llythyren U. Yr oedd yno hefyd dŵr canolog i'r cloc. Y cynllunydd oedd Thomas Fulljames o Gaerloyw ac agorwyd yr adeilad ym 1848. I goffáu'r prif noddwr, y tirfeddiannwr lleol Joseph Ablett, gosodwyd penddelw ohono mewn cilfach yn y cyntedd. Yr oedd lle yn yr adeilad gwreiddiol i 200 o gleifion, ond fe ehangwyd mwy a mwy arno nes bod yno, erbyn 1908, 'bentref' hunangynhaliol o fil o gleifion a staff ynghyd â chapel, fferm, gweithdai, a chyflenwadau preifat o ddŵr a thrydan. Ymhlith y datblygiadau pwysig a welwyd wedi'r rhyfel yr oedd cynlluniau i wasgaru'r cleifion a'r staff: cynlluniwyd chwe fila unigol i'r cleifion (ond dwy yn unig a godwyd), ychwanegwyd at hynny gartref sylweddol i'r nyrsys a chodwyd ysbyty i dderbyn cleifion gwirfoddol ('ysbyty'r nerfau') mewn fila gerllaw.
Yn y 1980au cyhoeddwyd bwriad i gau Ysbyty'r Gogledd ac fe'i caewyd yn derfynol ym mis Medi 1995. Ymwelodd staff o'r Comisiwn Brenhinol ag ef ychydig cyn ei gau i wneud cofnod ffotograffig ohono. Ymhlith yr eitemau a gyffyrddai fwyaf â'r galon yr oedd y dillad yr arferai'r cleifion eu gwisgo, gan gynnwys gwisgoedd o ddefnydd bras ac esgidiau uchel y gellid eu cloi - eitemau a wnaed yn benodol ar gyfer y cleifion a fyddai'n rhwygo'u dillad neu'n cicio'u hesgidiau oddi ar eu traed. Ymhlith eitemau tebyg eraill yr oedd darlun gan glaf o'r cwrt yn y gwallgofdy lle câi'r dynion dipyn o awyr iach, a hwnnw'n gwrt cwbl wag. Y syndod oedd bod llawer o gofnodion y cleifion yn dal ar glawr, a rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i gyfnod sefydlu'r ysbyty. Bu'r archif yn sail i brosiect ymchwil ar hanes salwch meddwl yn y gogledd dan arweiniad Dr Pam Michael o Brifysgol Cymru, Bangor.
Mae sicrhau cadwraeth y casgliadau rhyfeddol hyn o adeiladau a'r broses o'u haddasu at ddefnydd newydd wedi codi problemau, a gwag ac eithaf anghyfannedd yw gwallgofdai Talgarth a Dinbych ers blynyddoedd lawer. Yr ateb a gafwyd amlaf i'r broblem hon oedd dymchwel y gwahanol ychwanegiadau atynt a chadw'r adeiladau gwreiddiol. Mewn rhai achosion, fel yn achos ysbyty'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, parheir i gyflawni amryw o swyddogaethau'r gwasanaeth iechyd ynddynt. Yn Abergafenni, llwyddwyd i droi'r adeiladau yn fflatiau ers i'r ysbyty gau ym 1996, a thalwyd cryn dipyn o gost ailwampio'r adeiladau gwreiddiol drwy roi 'datblygiad galluogi' ar waith a chodi tai ar y tiroedd helaeth. Dyna'r union ateb y gobeithir ei weld yn Ninbych.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw