Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae Cors Caron yn gors mawn sy'n cwmpasu ardal o tua 6km o'r de-orllewin wrth 2km i'r gogledd-ddwyrain, gydag afon Teifi yn rhedeg drwyddi. Dros y canrifoedd, mae'r gors wedi rhoi mawn i'r trigolion lleol ar gyfer tanwydd, brwyn ar gyfer sarn anifeiliaid a thir pori ar gyfer da byw. Torrwyd mawn o ymylon y gors i ddyfnder o hyd at 2m cyn i lefelau dŵr godi a'i gwneud hi'n anodd parhau i wneud hyn. Er bod torri mawn wedi dod i ben erbyn 1960, mae pori a thorri brwyn yn parhau, er ei fod yn cael ei reoli'n llym. Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, rhoddwyd ystyriaeth i ddefnyddio mawn yn fasnachol er mwyn cynhyrchu olewau, naptha, amonia, paraffin, tannin, nwy a chynhyrchion eraill; yn ogystal, ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, cafodd mawn ei gynaeafu'n fecanyddol ar gyfer sarn anifeiliaid ond byrhoedlog oedd y cynllun. Yn 1948, darganfuwyd fod clai o ansawdd uchel ar wely'r llyn ac y gellid ei ddefnyddio ar gyfer chynhyrcu briciau, sment a phaent, ond nid aed ati i'w gloddio. Heddiw mae'r gors yn cael ei rheoli fel gwarchodfa natur.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw