Penwaig Hallt
Penwaig Hallt
Disgrifiadau
Cynhwysion
- penwaig hallt
- tatws yn eu crwyn
Dull
- Rhoi’r penwaig hallt mewn dŵr oer am dri diwrnod a thair noson i dynnu’r halen ohonynt cyn eu coginio.
- Llenwi sosban â thatws yn eu crwyn a rhoi penwaig hallt ar eu hwyneb.
- Rhoi digon o ddŵr yn y sosban i ferwi’r tatws a gadael i’r penwaig goginio yn y gwres hwnnw.
Nefyn, Llŷn.
Hwn oedd y dull mwyaf cyffredin o goginio’r penwaig hallt yn siroedd gogledd Cymru ac yr oedd yn bryd cyffredin i ginio neu swper ym misoedd y gaeaf.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment