Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cynhwysion

tri phwys o flawd gwyn
pwys o flawd haidd
owns o furum
halen a dŵr cynnes


Dull

Rhoi’r blodiau mewn dysgl fawr a’u cymysgu’n drwyadl cyn gwneud pant yn eu canol i dderbyn y burum.
Toddi’r burum mewn ychydig o ddŵr cynnes, a’i dywallt i’r blawd.
Taenu ychydig o flawd dros wyneb y burum, gorchuddio’r badell â lliain glân a’i gadael mewn lle cynnes am ryw ugain munud.
Gwlychu’r toes â dŵr cynnes ac ychydig o halen ynddo, fel y bo angen.
Tylino’r toes yn dda, gan gymryd mwy o amser i wneud hyn na phan fyddir yn tylino toes cyffredin.
Rhoi lliain dros wyneb y badell eto, a gadael i’r toes godi mewn lle cynnes.
Rhannu’r toes a’i lunio’n dorthau ar fwrdd pren.
Rhoi’r torthau mewn tuniau a’u crasu mewn popty gweddol boeth.


Llanfachreth, Môn.

Yr hen ddull o grasu’r torthau hyn ym Môn oedd eu rhoi fesul un ar y radell, a phadell haearn wyneb i waered dros y dorth. Byddid yn cynnau tân ar y llawr, rhoi’r radell ar drybedd uwchben y tân, a chodi rhyw gymaint o’r tân hwnnw i orchuddio’r badell fel y bo’r gwres yn amgylchynu’r dorth. Gwellt neu rug wedi’u llosgi’n goch a ddefnyddid yn danwydd, ac un ymadrodd lleol i ddisgrifio’r dull hwn o grasu neu bobi oedd ‘pobi yn y baw’. Arferid yr un dull i grasu bara haidd yn Llŷn, ac amrywiai’r tanwydd yn ôl yr hyn a oedd ganddynt wrth law, e.e., mân us, eithin neu boethwal.

Yn yr un modd, cresid torth mewn ‘crochan pobi’, ‘cetel’, ‘cidl’ neu ‘ffwrn fach’ yn ôl yr enw a arferid am y math hwn o grochan mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw