Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Danfonwyd neges heddwch ac ewyllys da yn flynyddol gan ieuenctid Cymru i ieuenctid y byd ers 1922. Gwaeth beth yw gwleidyddiaeth, ffiniau neu densiynau rhyngwladol, mae’n mynegi gobaith am ddyfodol heddychlon a chariad at ddynoliaeth ar draws y byd.

Syniad Gwilym Davies oedd y neges. Roedd yn weithgar mewn nifer o fentrau oedd â’r nod o hyrwyddo dealltwriaeth ryngwladol yn y blynyddoedd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn 1922, roedd y ‘Neges Ddi-wifr i’r Byd gan Blant Cymru’ gyntaf yn cynnwys y llinell: “Ni fydd raid I neb ohonom, pan awn yn hŷn, ddangos ein cariad tuag at wlad ein genedigaeth trwy gasau a lladd y naill y llall.”

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw