Llythyr a chardiau Rhyfel Byd 1af ag anfonwyd gan Griffith Piercy
Disgrifiadau
Roedd William a Griffith Piercy yn frodyr o Sychdyn. Roeddent yn 18 ac yn 19 oed pan wnaethant gofrestru. Dyma Stephen Cunnah yn cofio: “George oedd fy hen daid. Roedd yn rhy ifanc i ymladd. Roedd yn tua naw oed. Roedd yn frawd i William a Griffith. Mae’r llythyr a’r cerdyn gan Griffith at ei frawd iau, George. Roedd y teulu’n byw ar fferm fach ac mae’r llythyr yn gofyn i George sut mae’r cynaeafu yn mynd yn ei flaen. Mae’r llythyr hefyd yn cynnwys dymuniadau gorau i George, ac anfonwyd cerdyn pen-blwydd hefyd. Cafodd William a Griffith eu lladd mewn brwydr. Cafodd eu rhieni’r newyddion am eu marwolaethau un diwrnod ar ôl y llall, ar ôl y Cadoediad.”
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment