Medal, bathodyn, cas sigaréts a thaniwr yn eiddo i James Owen
Disgrifiadau
Ffrâm yn cynnwys ei fathodyn a’i fedal o’r Rhyfel Byd Cyntaf; yn ogystal â thaniwr a chas sigaréts o’r Ail Ryfel Byd.
Roedd James (Jim) Owen yn Filwr Cyffredin yng Nghatrawd 23 Cymru.
Dyma Siân Phipps yn sôn am brofiad ei thaid o ryfel:
“Ar ôl gweithio fel glöwr am dair wythnos, ymrestrodd fy nhaid (er ei fod dan oed) er mwyn osgoi mynd yn ôl I lawr i’r pwll glo. Cafodd ei anfon I Aldershot i’w hyfforddi, ac oddi yno aeth i’r Aifft, Gallipoli a Salonika. Bu bron iddo farw o falaria ym 1916 a bu’n dioddef pyliau o falaria am weddill ei oes.
“O Salonika, cafodd taid ei anfon yn syth i Ffrainc. Cafodd ei saethu yn ei goes, yn Ypres rydyn ni’n medddwl. Yn ôl hanes teuluol, yn hytrach na rhedeg gyda neges drwy’r ffosydd, yn ei ffordd nodweddiadol, neidiodd dros y brig. Aeth ei ffrind Pickins, o Dreherbert hefyd, allan i’w achub a’i gludo i ddiogelwch.
Cafodd taid ei anfon i ysbyty Star and Garter yn Richmond, Llundain i wella. Roedd mor hoff o’r nyrsys yno fel ei fod wedi enwi ei ferch hynaf ar ôl un ohonyn nhw.”
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment