Agorwr llythyrau a oedd yn perthyn i George Passmore
Disgrifiadau
Meddai Guy Passmore: “Daeth George Passmore â hwn adref i gofio am frwydr Loos, Ffrainc. Cafodd ei wneud o fwled reiffl. Bu George yn gwasanaethu yn Gallipoli hefyd.”
Roedd George Passmore yn filwr cyffredin mewn catrawd Gymreig a wasanaethodd yn Gallipoli.
Eglurodd Guy Passmore pam roedd cymaint o deulu ei hen daid yn gwasanaethu ar y môr yn y Rhyfel Byd Cyntaf:
“Rhaid cofio bod y môr yn bwysig iawn i ardal Ceinewydd. Byddai’r bobl ifanc i gyd yn mynd i’r môr. “
Meddai Guy: “Fy hen daid oedd Capten y Salmonpool. Fe’i trawyd gan dorpido ym Môr y Canoldir ym mis Mehefin 1916. Neidiodd y criw i mewn i’r cychod a chyrraedd y lan yn ddiogel. “
Mae Guy yn cofio sut lwyddodd ei hen nain i helpu ffoaduriaid o Wlad Belg ar ôl goresgyniad yr Almaen: “Roedd ganddynt bwyllgor i ddod o hyd I gartrefi i’r ffoaduriaid. Mae’r holl blant yn y tu blaen yn ffoaduriaid; byddai rhai o’r merched wedi bod ar y pwyllgor. “
Bu hen ewythr Guy, Owen Jones, yn gwasanaethu gyda Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin. Cafodd malaria ym Macedonia ac aeth i ysbyty yn Lerpwl i adfer ei iechyd. Eglurodd Guy: “Roeddent yn gwisgo gwisgoedd glas llachar arbennig pan oeddent yn yr ysbyty”.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment