Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd William Graham, o Gasnewydd, yn Is-gapten yn Nawfed Bataliwn Catrawd Llundain (Reifflwyr y Frenhines Fictoria).
Roedd catrawd Llundain yn cynnwys bataliynau o filwyr gwirfoddol.

Mae ŵyr William Graham, yn cofio hanes ei daid yn ymrestru:
“Ymunodd a’r fyddin yn Davies Street yn Mayfair lle’r oedd reifflwyr y Frenhines Fictoria yn recriwtio; efallai oherwydd bod ei ffrindiau neu ei gydweithwyr yn ymuno. Roedd llawer o bwysau i wneud hynny ar y pryd.”
Mae ei ŵyr yn adrodd stori deuluol am drydedd brwydr Ypres, Awst 1917, y bu William yn ymladd ynddi:
“Aeth darn o shrapnel yn sownd mewn gwasgod ym mhac fy nhaid gan achub ei fywyd! Cadwodd fy nhaid y darn o shrapnel wedi’I lapio mewn tocyn tren mewn amlen.”
Meddai William Graham:
“Tynnwyd y llun cyntaf wedi i fy nhaid ymuno â reifflwyr y Frenhines Fictoria. Tynnwyd yr ail lun ugain mlynedd yn ddiweddarach pan ymunodd fy nhaid a’r Amddiffynwyr Gwirfoddol Lleol. Roedd am ddangos i fy nain fod ei iwnifform yn dal i’w ffitio. Roedd yn falch ei fod yn dal yn gallu ei gwisgo.”

Willam Graham ysgrifennodd y neges ar yr amlen, sef:
Darn o shrapnel a aeth yn sownd mewn gwasgod yn fy mag yn ystod Brwydr Ypres ym mis Awst 1917, wrth ymladd i ennill meddiant o ffordd Ypres-Menin ger coedwig Glencourse.
Dyddiad y tocyn trên i orsaf Fictoria yw Medi 1917.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw