Disgrifiad

Gwisg: het, cap, siòl, gŵn, ffedog, sgert, pais, chemise, sanau, esgidiau, llewys ar wahân ac yn cario poced, basged, gwaith gweu ac ymbarél
Corff: pen crochenwaith bisg, corff lledr, crochenwaith bisg ar waelod y breichiau a’r coesau
Het: sidan plwsh
Cap: rhwyd gyda border les
Sylwadau cyffredinol: Mae gan y ddol ŵn gyda streipiau coch llydan ar gefndir glas tywyll sy’n clymu yn y cefn. Mae rhuban du ar ben y llewys byr sydd wedi’u torchi yn debyg i wisgoedd oedolion.
Efallai fod y ddoli hon wedi’i gwneud ar gyfer cystadleuaeth (yn debyg i’r un o Amgueddfa Ceredigion, dyddiedig 1937) neu i’w harddangos – mae pinnau metal yn ymwthio drwy’r esgidiau.
Taldra: tua 40cm
Dyddiad: dechrau i ganol yr 20fed ganrif

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw