Disgrifiad

Gwisg: het, cap, siòl, ffedog, gŵn, sgert, pais, chemise, poced, llewys ar wahan, sanau, gardas, esgidiau, gwaith gweu yn ei llaw
Corff: pen cyfansawdd, gyda llygaid glas gwydr a gwallt brown
Het: sidan plwsh (gwnaed gartref)
Cap: rhwyd gotwm gyda border les
Taldra: 69cm
Sylwadau cyffredinol: Mae’r gŵn yn nodweddiadol o Sir Aberteifi / Sir Gaerfyrddin. Mae'r gŵn wedi’i gwneud o ffabrig coch gyda streipiau glas tywyll, gyda dau fotwm ar waelod y cefn. Mae rhwymyn o sidan o amgylch y llewys byr sydd wedi’u torchi. Het o sidan plwsh a phoced wedi’i brodio.
Dyddiad: cyfuniad o bwythau peiriant a phwythau llaw, felly ar ôl 1850

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw