Disgrifiad

Gwisg: het, cap, mantell, blows hir, sgert, ffedog, poced glymu, dwy bais, chemise, dillad isaf
Corff: Pen cyfansawdd, gyda chorff, coesau a breichiau pren. Mae haenau geso ar waelod y breichau pren a’r coesau. Mae’r gwddf wedi torri a’r breichiau yn rhydd, ond mae pin diogelwch yn clymu’r fraich dde i’r dillad.
Het: sidan plwsh
Cap: les
Taldra: 29cm
Sylwadau cyffredinol: Mae poced fawr yn hongian ar flaen y ffedog – ar y doliau eraill, mae’r rhain fel arfer yn guddiedig). Mae’r fantell goch yn debyg i’r rhai a welir ar D3, D20 a D21.
Dyddiad: canol y 19eg ganrif?

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw