Dol Gymreig, Amgueddfa Dinbych-y-pysgod, D5
Disgrifiadau
Gwisg: cap, gŵn nos, sgert, pais, chemise, ffedog, llewys ar wahân, sanau wedi’u gweu, clocsiau, het ar wahân.
Corff: Pen cwyr, corff meddal wedi’i stwffio, dwylo lledr, llygaid gwydr.
Het: sidan plwsh
Taldra: 42cm, cap i wadnau’r clocsiau
Sylwadau cyffredinol:
Mae’r gŵn yn debyg iawn i’w bâr (D4), ond gyda ffabrig streipïog yn hytrach na phlaen, sydd wedi colli’i liw. Mae’n cario basged o wymon ar ei chefn - wedi’i gosod gyda rhuban melfed du o gwmpas ei gwddf.
Dyddiad: 1889
Hanes: Cafodd ei gwneud ar gyfer Miss Emily Warren Davies a’i chwaer, gan eu modryb. Nadolig, 1889. Mae’n debyg bod y wisg yn ymdebygu i’r hyn a wisgai merched Llangwm, Sir Benfro, fyddai’n casglu a gwerthu pysgod cregyn.
Partner i D4
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment