Dol Gymreig, Amgueddfa Dinbych-y-pysgod, D3
Disgrifiadau
Gwisg: Cap â chwfl coch, gŵn nos wedi’i brintio, ffedog streipïog, sgert, pais, yn cario basged o waith gweu.
Corff: Pen bisg gyda llygaid cysglyd yn defnyddio pwysau plwm. Coesau a breichiau pren mae’n debyg; mae’r pen yn llac. Dwy weiren ar draws y corff yn cysylltu’r pen a’r coesau i’r corff, er bod y coesau wedi dod i ffwrdd.
Taldra: tua 46cm heb yr het
Het: sidan plwsh
Sylwadau cyffredinol: Does dim byd yn benodol Gymreig am y wisg heblaw’r het. Mae’r clogyn yn debyg i’r hyn a geir ar ddoliau o’r cyfnod o rannau eraill o Brydain (a gweler D20). Cymharwch y ddol hon â D8. Mae’r ddol wedi dioddef difrod goleuni sylweddol i’r ffedog a’r gŵn.
Hanes: Cafodd ei gwneud gan Mrs Betsy Watkins, gofalwraig Castell Caernarfon adeg Arwisgiad Tywysog Cymru, 1911. Cafodd un fersiwn fychan ei chyflwyno i Lloyd George, a’r llall ei gyrru i Balas Buckingham.
Dyddiad: 19eg ganrif gydag ychwanegiadau o ddechrau’r 20fed ganrif.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment