Disgrifiad

Dyma un o bâr, gwryw a benyw, y ddau mewn câs arddangos.
Gwisg: het, côt, gwasgod, clôs pen-glin, sanau ac esgidiau. Partner i D1.
Corff: Pen pren wedi’i baentio gyda brest gron, corff wedi’i stwffio â defnydd. Mae’r gwddf wedi torri. Dwylo a gwaelod y breichiau yn briddwaith.
Taldra: tua 52cm (yn cynnwys het ac esgidiau)
Sylwadau cyffredinol:
Mae doliau gwrywaidd gyda gwisg Gymreig yn hynod o brin. Mae dillad yr enghraifft hon yn debyg i’r ychydig ddisgrifiadau a darluniau sy’n goroesi. Byddai dynion o bob dosbarth drwy Gymru a Lloegr yn gwisgo dillad gorau tebyg (siaced, gwasgod, clôs pen-glin, sanau a het uchel). Gwlân lleol fyddai ffabrig dillad dynion Cymru, mwy na thebyg. Roedd y wasgod liwgar a’r sanau glas yn nodweddiadol. Mae’r het yn rhy fawr i’r ddol: mae wedi’i gwneud o ffabrig wedi’i wehyddu ond byddai het oedolyn wedi’i gwneud o ffelt neu wedi’i gorchuddio â sidan (fel het y fenyw yn y cwpl hwn).
Dyddiad: diwedd y 19eg ganrif? Mae’r cyffiau a’r llinyn gwasg ar y trowsus wedi’u pwytho gyda pheiriant.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw