Disgrifiad

Gweithdy collage yn Ysgol Gyfun Penweddig.

Fe gyflwynais ddisgyblion y dosbarth Celf Ychwanegol yn Ysgol Penweddig i dechnegau collage cyfryngau-cymysg ac fe wahoddais i nhw i ymateb i’r archifau.
Aethom ati i rwygo a thorri copïau o hen ffotograffau du a gwyn a ddarparwyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a’u gludio ar fyrddau mowntio. Yna cafodd paent acrylig, pasteli a phensiliau lliw eu defnyddio i greu cytgord yn y collage.
Roedd y disgyblion yn frwd iawn wrth weithio ar y cyflwyniad hwn ac maen nhw’n edrych ymlaen at weld a fydd eu gweithiau celf yn cael eu cyhoeddi.

Marie Pierre.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw