Skip to main content

Detholiadau o fapiau Arolwg Ordnans yn dangos y newidiadau ar safle Fferm Ynysywern a Gorsaf Drydan Glan-bad dros amser

Disgrifiadau

Detholiadau o fapiau Arolwg Ordnans yn dangos y newidiadau ar hyd y blynyddoedd ar safle Fferm Ynysywern a Gorsaf Drydan Glan-bad. Mae’r map uchaf yn dangos Ynysywern yn y 1880au, a’r map canol yn ei dangos yn y 1920au ar ôl i’r orsaf drydan gael ei hadeiladu. Yn y map isaf o’r 1940au hwyr mae’r fferm wedi diflannu a maint yr orsaf drydan wedi cynyddu.

Rhwng 1902 a 1910, cafodd Gorsaf Drydan Glan-bad ei hadeiladu ar lan orllewinol Afon Taf gan Gwmni Dosbarthu Pŵer Trydanol De Cymru. Ym 1936 daeth y safle yn Ystâd Fasnachu Trefforest.

Roedd Fferm Ynysywern, sy’n dyddio o’r ddeunawfed ganrif neu gynt, yn rhan o ystâd Bute. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, gwerthwyd y fferm er mwyn adeiladu Gorsaf Drydan Glan-bad ar y safle. Yn fwy diweddar, aeth olion y fferm a’r orsaf drydan i ddifancoll pan adeiladwyd Ystâd Fasnachu Trefforest.

Owner:
RCAHMW
Crëwr:
Ordnance Survey
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
14/1/2016
Gwelediadau:
1326
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment