Skip to main content

Llun o stryd yng Nglan-bad a dynnwyd ym 1906

Disgrifiadau

Copi digidol o gerdyn post yn dangos stryd yng Nglan-bad gyda siop, cart, pobl a pholyn telegraff. Tynnwyd ym 1906.

Pentref bach sydd bellach ar gyrion Pontypridd yw Glan-bad. Daw ei enw o gwch fferi a arferai groesi Afon Taf, Roedd nifer o gychod fferi ar hyd y rhan hon o’r afon a Glan-bad oedd y man croesi uchaf. Rhwng 1902 a 1910, cafodd Gorsaf Drydan Glan-bad ei hadeiladu ar lan orllewinol Afon Taf gan Gwmni Dosbarthu Pŵer Trydanol De Cymru. Ym 1936 daeth y safle yn Ystâd Fasnachu Trefforest.

Rhodd garedig gan Dr Susan Davies, gorwyres John Morgan, tenant Ynysywern o c. 1851, yw’r ffotograff hwn.

Owner:
Dr Susan Davies Collection
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
14/1/2016
Gwelediadau:
1424
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment