Skip to main content

Llun o Fferm Ynysywern c. 1902-10

Disgrifiadau

Copi digidol o ffotograff yn dangos mynedfa gefn Fferm Ynysywern.

Roedd Fferm Ynysywern, sy’n dyddio o’r ddeunawfed ganrif neu gynt, yn rhan o ystâd Bute. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, gwerthwyd y fferm er mwyn adeiladu Gorsaf Drydan Glan-bad ar y safle.

Roedd y ffermdy hefyd yn cael ei alw’n ‘Tŷ Nel’ ar ôl gweddw o’r enw Eleanor a fu’n cynnal cyfarfodydd cynnar o’r Methodistiaid Calfinaidd yno.

Rhodd garedig gan Dr Susan Davies, gorwyres John Morgan, tenant Ynysywern o c. 1851, yw’r ffotograff hwn.

Owner:
Dr Susan Davies Collection
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
14/1/2016
Gwelediadau:
809
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment