Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Copi digidol o gerdyn post yn dangos cynaeafu gwair ar Fferm Ynysywern, gyda merched, dynion a phlant. Tynnwyd y llun rhwng 1902 a 1910. Y pennawd ar y cerdyn post yw ‘Cynhauaf gwair – cae o flaen y ty’.

Roedd Fferm Ynysywern, sy’n dyddio o’r ddeunawfed ganrif neu gynt, yn rhan o ystâd Bute. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, gwerthwyd y fferm er mwyn adeiladu Gorsaf Drydan Glan-bad ar y safle.

Roedd y ffermdy hefyd yn cael ei alw’n ‘Tŷ Nel’ ar ôl gweddw o’r enw Eleanor a fu’n cynnal cyfarfodydd cynnar o’r Methodistiaid Calfinaidd yno.

Rhodd garedig gan Dr Susan Davies, gorwyres John Morgan, tenant Ynysywern o c. 1851, yw’r ffotograff hwn.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw