Llun o gynaeafu gwair ar Fferm Ynysywern circa 1902-10
Llun o gynaeafu gwair ar Fferm Ynysywern circa 1902-10
Disgrifiadau
Copi digidol o gerdyn post yn dangos cynaeafu gwair ar Fferm Ynysywern, gyda dynion a chart gwair. Mae simnai [gorsaf drydan Cwmni Trydan De Cymru yng Nglan-bad] i’w gweld yn y cefndir.
Roedd Fferm Ynysywern, sy’n dyddio o’r ddeunawfed ganrif neu gynt, yn rhan o ystâd Bute. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, gwerthwyd y fferm er mwyn adeiladu Gorsaf Drydan Glan-bad ar y safle.
Roedd y ffermdy hefyd yn cael ei alw’n ‘Tŷ Nel’ ar ôl gweddw o’r enw Eleanor a fu’n cynnal cyfarfodydd cynnar o’r Methodistiaid Calfinaidd yno.
Rhodd garedig gan Dr Susan Davies, gorwyres John Morgan, tenant Ynysywern o c. 1851, yw’r ffotograff hwn.
Ffynhonnell allanol:
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment