Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Capel y Bedyddwyr Jezreel, Goginan – braslun pen a golchiad gan Deanna Groom.

‘Yng nghasgliadau’r Comisiwn Brenhinol mae ffotograff du a gwyn o’r capel gyda rhan o’r to wedi mynd. Mae tarpolin glas yn awr yn llenwi’r twll ac mae rhwyd las dros y to. Mae’r ffenestri isaf i gyd wedi’u byrddio erbyn hyn, ond dengys y llun du a gwyn y gwydr lliw addurnol sydd, o bosibl, yno o hyd o dan y byrddau.

Rwy’n dysgu sut i beintio gyda dosbarth Dyfi U3A ym Machynlleth, felly arbrofion mewn pen a golchiad yw’r brasluniau dyfrlliw hyn i greu gweadau ar gyfer bricwaith, waliau cerrig, ac ati. Mae’n bleser mawr gen i eu cyflwyno i’r casgliad Archifau sy’n Ysbrydoli i gofio am y digwyddiad gwirioneddol ddifyr yma a drefnwyd gan y Comisiwn Brenhinol.

Y ddau beth mawr aeth â’m sylw oedd cyflwr trist y capel hyfryd yma a’r rhwyd las wedi’i bachu o amgylch y to i ddal llechi, ond sy’n edrych fel baneri rhyw ŵyl neu’i gilydd – bron fel petai’r adeilad yn herio’r byd er gwaethaf y fandaliaeth a’r dirywiad.’

Deanna Groom, Tachwedd 2015

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw