Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cysgodfan Bathrock, Aberystwyth – llun dyfrlliw gan Audrey Groom.

'Yn ystod storm fawr gaeaf 2013-14, cafodd sylfeini un o’r cysgodfannau ar y promenâd eu golchi i ffwrdd gan y tonnau anferth a disgynnodd y cysgodfan i’r twll a ffurfiwyd. Cafodd y cysgodfan gryn sylw ar y teledu a daeth yn symbol o Brydain dan lach yr elfennau. Daeth pobl leol i helpu’r awdurdod lleol i glirio’r llanastr ac i gludo pentyrrau mawr o dywod yn ôl i’r traeth. Mae fy mraslun dyfrlliw, a gychwynnais yn ystod y digwyddiad Archifau sy’n Ysbrydoli yn y Comisiwn Brenhinol, yn dangos y cysgodfan newydd – o ongl ychydig yn wahanol i’r un yn y ffotograff yn yr archifau.’

Audrey Groom (92 oed), Tachwedd 2015

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw