Tŷ Coldra, Ysbyty Mamolaeth Lydia Beynon, Casnewydd
Disgrifiadau
Mae Tŷ Coldra yn dyddio o’r 1860au a chafodd ei adeiladu gan y teulu Powell, perchenogion y cwmni diwydiannol pwerus Powell-Dyffryn.
Yn dilyn llofruddiaeth Thomas Powell yn Abyssinia ym 1868 fe gafodd y tŷ ei osod ar brydles gan y cwmni hyd 1915 pan gafodd ei brynu gan Thomas Beynon, y buasai ei dad yn faer Casnewydd ddwywaith.
Fe wnaeth Beynon newidiadau i’r adeilad, gan gynnwys codi adain newydd a gosod dwy ffenestr yn portreadu “Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon” a fuasai gynt yn Neuadd Bryn Ifor, cartref ei dad.
Gwerthwyd y tŷ rywbryd yn y 1930au ac ym 1940 fe agorodd fel Ysbyty Mamolaeth Lydia Beynon er cof am fam Thomas. Caeodd yr ysbyty ym 1977 a dirywiodd yr adeilad cryn dipyn, ond ym 1980 cafodd ei brynu gan y Celtic Inns Company a dyma ddechrau ei weddnewidiad yn Westy’r Celtic Manor.
Roedd Syr Terence Matthews, sylfaenydd y Celtic Inns Company a Gwesty’r Celtic Manor, yn un o 60,000 o fabanod a gafodd eu geni yn yr adeilad pan oedd yn ysbyty mamolaeth.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment