Bicer, dechrau’r Oes Efydd
Disgrifiadau
Bicer, dechrau’r Oes Efydd
Gwinllan Naboth, Llanhari, Rhondda Cynon Taf
2250-1950 CC
Ym mis Medi 1929, roedd gweithwyr yn adeiladu ffordd newydd pan ddaethant ar draws bedd carreg. Yn y bedd roedd esgyrn dyn oedd rhwng 26 a 35 oed pan fu farw, ac wrth ei ymyl roedd y galarwyr wedi gosod y bicer hardd hwn. Mae patrymau cywrain yn y clai, wedi’u creu gyda chrib mân. Mae’n debyg ei fod wedi cael ei greu’n arbennig ar gyfer ei gladdu.
Yn ôl y gweithwyr, roedd ‘llysnafedd’ y tu mewn i’r bicer – gweddillion diod i ffarwelio efallai – ac fe wnaethant ei lanhau’n ofalus. Heddiw, gallai gweddillion o’r fath gael eu dadansoddi er mwyn gweld beth oedd yn y bicer yn wreiddiol.
NMW ac. no. 29.430/1
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment