Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mynedfa Gwaith Argraffu Gee a ffenest grom y perchennog.
Tan i wasg argraffu wreiddiol Gwasg Gee yn Ninbych gau yn 2001, yr oedd hi'n siop argraffu draddodiadol a oedd wedi llwyddo'n rhyfeddol i dal ei thir. Hi oedd yr esiampl olaf o'i bath yng Nghymru ac fe gynrychiolai draddodiad cadarn o argraffu a chyhoeddi yn y Gymraeg.
Fe'i sefydlwyd ym 1808 ac ym 1813 fe'i prynwyd gan Thomas Gee. Yn ystod y 1830au, dechreuodd mab Thomas Gee, Thomas arall (1815-98), reoli'r wasg a datblygu rhaglen gyhoeddi uchelgeisiol.
Bu'r adeilad yn Lôn Swan yn gartref i'r wasg yn ddi-dor o'r 1830au ymlaen ac nid yw'r lle wedi gweld fawr o newid ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan arweiniodd y mecaneiddio cynyddol at ehangu adeiladau'r wasg. Ychwanegwyd cwrt atynt ac, o dan ffenestr swyddfa Thomas Gee ar y llawr cyntaf, crêwyd mynedfa a oedd yn ddigon mawr i geirt allu dod drwyddi.
Er i'r teulu Gee gadw mewn cysylltiad agos â'r busnes yn yr ugeinfed ganrif, prynwyd y wasg ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd gan Morris T. Williams a'i wraig, Kate Roberts, y llenor y ceir portread mor fyw o fywyd chwarelwyr Cymru a'u teuluoedd yn ei nofelau a'i storïau byrion.
Rhoddwyd y ffurf derfynol ar y wasg yn ystod y blynyddoedd wedi'r Ail Ryfel Byd, ac er i Morris Williams farw ym 1946 daliodd Kate Roberts i redeg y wasg a chyhoeddi'r papur newydd cenedlaethol Cymraeg,Baner ac Amserau Cymru(neuY Faner), am ddeg mlynedd arall.
Y tu cefn i'r adeilad mae ffwrnais fach lle câi'r teip plwm ei gastio. Cynnyrch ffatrïoedd yn yr Almaen yn yr ugeinfed ganrif yw'r rhan fwyaf o'r peiriannau. Yn eu plith mae gilotîn Polar-Mohl, peiriant gwnïo llyfrau Brehmer Leipzig, peiriant plygu Stahl, a gweisg Heidelberg yn yr ystafell argraffu. Yn ystafell y cysodwyr mae chwe pheiriant leinoteip. Y rheiny yw'r prif offer a ddefnyddid gan argraffwyr mewn trefi, a thua'r diwedd fe'u defnyddid i argraffu taflenni angladdau a phriodasau ac eitemau tebyg. Hyd y diwedd, parhâi Gwasg Gee i gadw raciau hen-ffasiwn o deip poster a meini cysodi.
Tynnwyd ffotograffau o'r gwaith argraffu ym 1998 cyn iddo gau. Er bod newidiadau technolegol heddiw wedi cwtogi ar nifer y prosesau sydd ynghlwm wrth argraffu, mae unrhyw fuddsoddi sylweddol ynddynt yn golygu bod rhaid wrth gryn ddarbodion maint a bod rhaid codi adeiladau mawr ar ystadau diwydiannol ar eu cyfer yn hytrach na bod y cyfan wedi'i wasgu i adeiladau hanesyddol go gyfyngedig eu maint yng nghanol tref. Gan fod Gwasg Gee, er hynny, yn dal i fod yn elfen bwysig yn nhreftadaeth adeiledig Dinbych, mae ymddiriedolaeth wrthi'n chwilio am ffyrdd newydd o ddefnyddio'r adeilad. Y gobaith yw y bydd hynny'n cynnwys agor amgueddfa argraffu.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw