Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Awyrlun o Wallgofdy Siroedd Gogledd Cymru yn Ninbych yn yr eira, 2006.
Wallgofdy Siroedd Gogledd Cymru yn Ninbych yn codwyd drwy danysgrifiad cyhoeddus, yn bennaf oherwydd y pryder ynghylch lles y Cymry Cymraeg a gâi eu hanfon cyn hynny i wallgofdai Lloegr. Craidd gwreiddiol yr ysbyty oedd adeilad trawiadol mewn arddull Jacobeaidd ar ffurf y llythyren U. Yr oedd yno hefyd dŵr canolog i'r cloc. Y cynllunydd oedd Thomas Fulljames o Gaerloyw ac agorwyd yr adeilad ym 1848. I goffáu'r prif noddwr, y tirfeddiannwr lleol Joseph Ablett, gosodwyd penddelw ohono mewn cilfach yn y cyntedd. Yr oedd lle yn yr adeilad gwreiddiol i 200 o gleifion, ond fe ehangwyd mwy a mwy arno nes bod yno, erbyn 1908, 'bentref' hunangynhaliol o fil o gleifion a staff ynghyd â chapel, fferm, gweithdai, a chyflenwadau preifat o ddŵr a thrydan. Ymhlith y datblygiadau pwysig a welwyd wedi'r rhyfel yr oedd cynlluniau i wasgaru'r cleifion a'r staff: cynlluniwyd chwe fila unigol i'r cleifion (ond dwy yn unig a godwyd), ychwanegwyd at hynny gartref sylweddol i'r nyrsys a chodwyd ysbyty i dderbyn cleifion gwirfoddol ('ysbyty'r nerfau') mewn fila gerllaw.
Yn y 1980au cyhoeddwyd bwriad i gau Ysbyty'r Gogledd ac fe'i caewyd yn derfynol ym mis Medi 1995. Ymwelodd staff o'r Comisiwn Brenhinol ag ef ychydig cyn ei gau i wneud cofnod ffotograffig ohono. Ymhlith yr eitemau a gyffyrddai fwyaf â'r galon yr oedd y dillad yr arferai'r cleifion eu gwisgo, gan gynnwys gwisgoedd o ddefnydd bras ac esgidiau uchel y gellid eu cloi - eitemau a wnaed yn benodol ar gyfer y cleifion a fyddai'n rhwygo'u dillad neu'n cicio'u hesgidiau oddi ar eu traed. Ymhlith eitemau tebyg eraill yr oedd darlun gan glaf o'r cwrt yn y gwallgofdy lle câi'r dynion dipyn o awyr iach, a hwnnw'n gwrt cwbl wag. Y syndod oedd bod llawer o gofnodion y cleifion yn dal ar glawr, a rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i gyfnod sefydlu'r ysbyty. Bu'r archif yn sail i brosiect ymchwil ar hanes salwch meddwl yn y gogledd dan arweiniad Dr Pam Michael o Brifysgol Cymru, Bangor.
Mae sicrhau cadwraeth y casgliadau rhyfeddol hyn o adeiladau a'r broses o'u haddasu at ddefnydd newydd wedi codi problemau, a gwag ac eithaf anghyfannedd yw gwallgofdai Talgarth a Dinbych ers blynyddoedd lawer. Yr ateb a gafwyd amlaf i'r broblem hon oedd dymchwel y gwahanol ychwanegiadau atynt a chadw'r adeiladau gwreiddiol. Mewn rhai achosion, fel yn achos ysbyty'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, parheir i gyflawni amryw o swyddogaethau'r gwasanaeth iechyd ynddynt. Yn Abergafenni, llwyddwyd i droi'r adeiladau yn fflatiau ers i'r ysbyty gau ym 1996, a thalwyd cryn dipyn o gost ailwampio'r adeiladau gwreiddiol drwy roi 'datblygiad galluogi' ar waith a chodi tai ar y tiroedd helaeth. Dyna'r union ateb y gobeithir ei weld yn Ninbych.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw