Skip to main content

talTalwrn, dafarn yr Hawk & Buckle, Dinbych

Disgrifiadau

Wrth ymyl 47 Stryd y Dyffryn mae hen dafarn yr Hawk & Buckle, adeilad â neuadd a chroes-adain a godwyd yn gynnar yn yr ail ganrif ar bymtheg. Estynnwyd ei du blaen yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'i droi'n fflatiau erbyn hyn.
Y tu cefn i hen dafarn yr Hawk and Buckle yn Stryd y Dyffryn, wrth y bracty presennol, safai talwrn sydd bellach wedi'i ailgodi yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan ger Caerdydd.
Er nad yw union ddyddiad codi'r adeilad yn sicr, dywedir i dancard arian ac arno'r dilysnod 1726 ac engrafiad o ddau geiliog talwrn a'r enw 'Denbigh', gael ei gynnig yn wobr yn y talwrn. Efallai i'r adeilad gael ei godi yn ystod ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg. Gwael oedd cyflwr yr adeilad, a chafodd ei ailgodi yn Sain Ffagan gan ei adfer i ffurf debyg i'r hyn ydoedd yn wreiddiol. Yr oedd talyrnau eraill yn y gogledd-ddwyrain yn Wrecsam a'r Trallwng. Er i amrywiol Ddeddfau gael eu pasio o 1835 ymlaen i wahardd ymladd ceiliogod, ni wnaed ef yn anghyfreithlon tan 1952.
Ref:DI2005_0564

Owner:
Mason
Crëwr:
Mason
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
2/8/2013
Gwelediadau:
3093
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment