Skip to main content

Grove Place, 52, Stryd y Dyffryn, Dinbych

Disgrifiadau

Grove Place, 52, Stryd y Dyffryn, sef hen orsaf yr heddlu a thŷ tref trillawr a godwyd o frics tua diwedd y ddeunawfed ganrif. Mae iddo fynedfa a grisiau canolog ac adain wasanaethu yn y cefn. Mae iddo ffasâd deniadol o dair ffenestr, rhai 'Fenis' ar y llawr gwaelod, rhai tridarn ar y llawr cyntaf a rhai 'Diocletaidd' ar yr ail lawr. Yn y tu blaen ar y dde, mae bae cul cilfachog ac anarferol sydd â ffenestri cul â dau gwarel ar bob llawr. Mae plinth a chonglfeini o dywodfaen ar y ffasâd o frics.
Mae'r manylion mewnol yn cynnwys drysau chwe-phanel, colfachau 'H' a phendrawstiau clustennog ar y drysau. Mae grisiau siafft yn goroesi uwchlaw'r llawr gwaelod ac mae iddynt ganllawiau dyrchafol, pyst sgwâr a balwstrau tenau. Mae iddynt hefyd groesfuriau o frics sy'n cynnal to o dulathau, fel yn Mostyn House. Mae'r adain wasanaethu yn y cefn wedi cadw tystiolaeth o'i defnyddio'n gelloedd carchar rhwng dechrau a chanol yr ugeinfed ganrif.
Ref:DI2005_0575

Owner:
Mason
Crëwr:
Mason
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
2/8/2013
Gwelediadau:
2088
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment