Skip to main content

Mostyn House, 42, Stryd y Dyffryn, Denbigh

Disgrifiadau

Mostyn House, 42, Stryd y Dyffryn:tŷ trillawr Teulu Mostyn. Fe'i codwyd o frics rhwng dechrau a chanol y ddeunawfed ganrif, ac erbyn hyn mae ganddo ffasâd parapet stwco diweddarach o gonglfeini dyrchafedig, siliau di-dor, pendrawstiau clustennog a meini clo ar yr agoriadau. Mae iddo gynllun ar ffurf 'L', sef mynedfa a grisiau canolog, ystafell dderbyn bob ochr iddynt, a chegin yn y cefn. Mae i'r grisiau siafft cywrain ganllaw rampiedig a moldiedig, balwstrau turniedig â physt ffliwtiog a thurniedig a phanel mur a rheilen dado moldiedig cyfatebol. Ar y llawr cyntaf, mae ystafell banelog braf. Mae'r grisiau'n codi rhwng croesfuriau sy'n cynnal to o dulathau, a grisiau o gerrig yn disgyn i seler o fowtiau baril a adeiladwyd o frics. Mae'r adeilad wedi dioddef oherwydd cynnwys tu blaen siop ynddo yn yr ugeinfed ganrif a thynnu'r grisiau ar y llawr gwaelod.
Ref: MBC_085

Owner:
RCAHMW
Crëwr:
RCAHMW
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
2/8/2013
Gwelediadau:
1952
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment