Skip to main content

Mostyn House, 42, Stryd y Dyffryn, Denbigh

Disgrifiadau

47, Stryd y Dyffryn, tŷ tref trillawr â thalcendo. Fe'i codwyd o frics tua diwedd y ddeunawfed ganrif. Fe'i defnyddiwyd gan deulu Griffith o'r Garn, Henllan, ac efallai iddo gael ei godi ar eu cyfer.
Mae iddo fynedfa a grisiau canolog a simnai pen ynghyd ag adain ôl ddeulawr sy'n wynebu Post Office Lane. Mae'r ffasâd o frics coch mewn bond Ffleminaidd a chonglfeini siamffrog o dywodfaen a ffenestri Fenis bob ochr i'r fynedfa a'r llawr cyntaf. Cynhelir y tulathau'n rhannol gan furiau o frics sy'n codi o lobi'r grisiau, gan groesfuriau a chan bâr o gyplau tulath brenhinbost sydd â chwpl-talcen wedi'i begio bob pen iddynt. Mae'r trawstiau cyffredin yn rhai mortais a thyno sydd wedi'u huno wrth y brig. Mae'r holl bren o dderw ag uniadau mortais a thyno sydd wedi'u pegio ac arnynt mae marciau'r saer a'u cydosododd.
Bond Ffleminaidd yw brics y ffasâd hwn ac mae ei ffenestri Fenis a'i gonglfeini o dywodfaen i gyd yn debyg o ran eu harddull i 52, Stryd y Dyffryn (Grove Place).
Ref: DI2005_0576

Owner:
Mason
Crëwr:
Mason
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
2/8/2013
Gwelediadau:
1453
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment