Gelli, 61 Vale Street, Denbigh
Disgrifiadau
Mae pen uchaf Stryd y Dyffryn yn adnabyddus am ei dai tref braf o'r ddeunawfed ganrif. Codwyd llawer ohonynt o frics mewn bond Ffleminaidd gyda chonglfeini a phlinthau o dywodfaen.
Gelli, Stryd y Dyffryn: dyma, ar un adeg, y crandiaf o'r tai tref o frics yn Stryd y Dyffryn. Credir iddo gael ei godi'n wreiddiol ym 1574 gan Hugh Clough, brawd Syr Richard Clough. Bu ef yn helpu Syr Richard wrth i hwnnw fasnachu yn yr Iseldiroedd.
Dywed maen dyddiad yn y cefn i'r Gelli gael ei ailgodi ym 1693 gan 'T. & E. S.', sef, mae'n debyg, Thomas Shaw a'i wraig Ellen. Bu Thomas Shaw'n Gofiadur Dinbych ac fe'i rhestrwyd yn Henadur ac yn Feili tua diwedd y 1680au a'r 1690au.
Tŷ o ddau lawr a hanner ac wedi'i godi o frics yw'r Gelli. Siâp 'T' sydd i'r fynedfa ganolog a'r grisiau, a cheir simneiau ystlysol a thalcendo. Mae iddo ffasâd cymesur o bum ffenestr yn y tu blaen a grisiau canolog, ac mae naws canol y ddeunawfed ganrif ar y cyfan. Mae dau fwa canolog yn yr adain gefn, adain sy'n dyddio, mae'n debyg, o'r unfed ganrif ar bymtheg. Gall y simneiau ystlysol ym mhrif ran y tu blaen fod yn dyddio o'r un cyfnod. Ar agoriadau'r ffenestri blaen mae bwâu gwastad o frics a meini clo ymwthiol a fframiau modern. Ceir yma hefyd gonglfeini, llinynnau a phlinth o dywodfaen ynghyd â phren bondo modiliwn sydd wedi'i fowldio'n ddwfn. Cynhelir y prif do blaen, sydd o ansawdd gwell na'r cyffredin, gan gyplau trawst a choler â phwyslathau Brenhines, a'r trawstiau wedi'u morteisio wrth dulathau. Yn yr hen ardd furiog mae tŷ haf/colomendy trillawr deniadol a godwyd o frics tua diwedd yr ail ganrif ar bymtheg.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment