Tafarn Eryrod, Dinbych
Disgrifiadau
TafarnYr Eryrod
Neuadd ddeulawr â thri bae ac o safon uwch na'r cyffredin ywTafarnYr Eryrodac fe'i codwyd o gerrig tua chanol yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae i'r neuadd groes-adain â thri bae. Yn y groes-adain honno mae cyplau to o dynlathau a choler a thulathau clasbedig, ac o dan bob tulath ceir pwyslathau ar ogwydd. Mae'n debyg iddi fod â llawr cyntaf o'r naill ben i'r llall ac, yn fwy na thebyg, yr oedd simnai ystlysol ymwthiol mewn neuadd ar y llawr cyntaf. Does dim arwydd amlwg bod mwg wedi duo'r pren, a'r unig le y mae trawstiau nenfwd cynnar i'w gweld yw dros y gegin. Mae pen uchaf y neuadd wedi'i hailgodi mewn brics ac mae ei thalcen yn wynebu Lôn Cefn. Yma, mae cyplau'r to yn ffurfio o leiaf dri bae, a cheir dau fae ychwanegol, a gafodd naill ai eu disodli neu eu hestyn mewn brics, sy'n estyn hyd at y stryd.
Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, cynhwyswyd lle tân cefn-gefn yn y groes-adain gan greu mynedfa lobi a rhannu'r gofod yn gegin a pharlwr. Mae i le tân y parlwr silff simnai ac arni'r dyddiad 1643 a'r llythrennau IPF, a cherfwedd o eryr deuben. Dywedir i'r ystafell wely uwchben gynnwys gwaith plastr ac arno'r dyddiad 1627 a'r llythrennau EIR. Ar nenfwd y gegin mae arysgrif mewn plastr, sef E I R (mewn drych-ddelwedd) mewn amlinelliad cylchog. Mae i le tân y gegin agoriad mawr a dwfn, capan siamffrog o bren, a ffwrn fara.
Mae'n debyg bod y ffaith fod y to mewn arddull a fewnforiwyd, ynghyd â'r dystiolaeth i'r groes-adain fod â nenfwd cilfwaog gynt, yn dangos i'r adeiladwaith hwn fod â statws uchel ar un adeg. Er na wyddom ni ei ddiben gwreiddiol, fe all fod wedi bod yn gartref i fonedd o statws uchel neu iddo gael ei ddefnyddio'n rhannol yn fan cyfarfod i'r Urddau Crefft.
Ref: IMG_6189
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment