Y Plough, Lôn Sowter, Denbigh
Disgrifiadau
Y Plough, Lôn Sowter.
Mae talcen deulawr yr adeilad hwn, a godwyd yn gynnar yn yr unfed ganrif ar bymtheg, yn wynebu'r stryd. Mae iddo ddau lawr, tri bae, ffrâm o bren a chroes-adain. Erbyn hyn, muriau o gerrig sydd ganddo. Mae cyfres o chwe bae o gerrig yn estyn tua'r cefn ac fe'i dendro-ddyddiwyd ar sail tulath o'r to i 1546-82. Yn yr adeilad ceir gweddillion simnai ystlysol ymwthiol sy'n dynodi y bu siambr fawr yno ar un adeg. Ar ongl sgwâr i'r groes-adain ac wedi'i gosod ychydig yn ôl, mae rhan ac ynddi ddau fae a chroes-lwybr llydan. Fe all hi fod wedi bod yn rhan o hen neuadd agored sydd bellach wedi'i dinistrio'n rhannol. Y tu mewn, mae'r groes-adain yn cynnwys nenbren caeedig anarferol sydd wedi'i foldio'n ddwfn. Ar y llawr cyntaf, mae gafaelfachau siamffrog a chrwm ar y bwyslath a'r prif bostyn. Mae i'r cyplau bwyslathau ar ogwydd a gafaelfachau tebyg i'r rhai sydd dros y croes-lwybr.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment