Skip to main content

13 a 15, Stryd y Dyffryn, Dinbych

Disgrifiadau

13 a 15, Stryd y Dyffryn (siop harddwch ac asiant teithio)
Er i'r adeiladau hyn gael eu newid yn helaeth, maent wedi cadw manylion eu fframiau pren. Mae'r rheiny'n dangos i'r adeiladau fod gynt yn un adeiladwaith a godwyd yn wreiddiol tua dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg. Yr oedd y rhan uchaf yn neuadd agored o fae a hanner ac iddi nenfforch ganolog â gafaelfachau bwaog a chroes-lwybr llydan yn erbyn y rhan isaf - rhan ac iddi ffrâm blwch. Yr oedd y rhan isaf honno'n groes-adain ddeulawr o bedwar bae ac yn ymwthio i'r tu blaen a'r tu cefn. Ceid ymwthiad uwchlaw llawer gwaelod ei thu blaen hefyd. Mae tulathau'n dal gafaelfachau cyplau'r nenffyrch a'r cyplau-blwch. Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg fe gynhwyswyd llawr yn y neuadd gan adeiladu lle tân croeslinol yn erbyn y croes-lwybr. Uwchben y lle tân hwnnw mae arysgrif plastr RTA 1639 wedi'i pheintio'n addurnol. Codwyd muriau o gerrig yn lle hen furiau'r neuadd ac yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg fe godwyd ychwanegiad o gerrig at du blaen y neuadd. Yn ddiweddarach, fe ailgodwyd y darn ymwthiol yn y tu blaen mewn brics i greu tu blaen i siop. Gallwch chi ddal i weld peth o'r ffrâm allanol yn y bwlch rhwng y siopau presennol, bwlch a oedd yn ddigon llydan erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i gert a cheffylau allu cyrraedd y stabl/cartws yn y cefn drwyddo.
Ref:DS2013_240_001

Owner:
RCAHMW
Crëwr:
RCAHMW
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
2/8/2013
Gwelediadau:
1184
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment