Skip to main content

Stryd Fawr, Dinbych

Disgrifiadau

Mae llawer o'r adeiladau hanesyddol sydd wedi goroesi yn Ninbych, fel Neuadd y Sir/Farchnad, Tafarn y Bull a Gwesty'r Crown, yn ymyl hen sgwâr y farchnad. Yn aml, cafodd y rhai cynharaf, fel y Golden Lion yn Lôn Cefn, eu hadeiladu drwy godi ffrâm o bren ac ychwanegu paneli o blethwaith a chlai ati.
Mae'r adeiladau ar dir yr hen farchnad yn sefyll ar ddarnau cul o dir sy'n rhedeg o High Street i Lôn Cefn. Yn eu plith mae Siop Clwyd, High Street, y tŷ cynharaf sy'n hysbys yn Ninbych. Fe'i dyddiwyd drwy ddendrocronoleg i 1533. Adeilad bach o un llawr a hanner yw ef. Mae iddo ffrâm o bren, pen ymwthiol ar bob ochr iddo, a thystiolaeth o neuadd agored yn ei ganol.
Ar ongl sgwâr, bron gyferbyn â Gwesty'r Crown, mae eiddo arall sydd â ffrâm o bren. Arferid ei alw'n She. Mae'n dŷ â phen ymwthiol. Mae iddo dri llawr ac fe'i dendro-ddyddiwyd i 1566-1602. Arferai fod paneli â gafaelfachau diemwnt ar ei brif ffasâd.
Codwyd The Forum, High Street (Gwesty'r Talbot gynt), rhwng canol a diwedd yr ail ganrif ar bymtheg, yn ymyl Siop Clwyd ac yn gyfochrog â hi. Mae'n adeilad trillawr â ffrâm o bren, grisiau canolog, a logia colofnog ar ei dalcen blaen. Muriau cerrig, gan mwyaf, sydd ganddo erbyn hyn. Mae'n un o saith adeilad, a phob un â dyddiad gwahanol, ac iddynt logia golofnog ddi-dor, neu arcêd siopa, sy'n wynebu High Street. Y Bylciau' oedd enw'r bobl leol ar y pileri sy'n cynnal y llofftydd uwchben y palmant, yn ôl Frank Price Jones yn Crwydro Gorllewin Dinbych.
Mae gan 21 High Street, ffasâd o ddau lawr a hanner a godwyd o frics coch tua chanol y ddeunawfed ganrif. Dros fwâu brics gwastad ei ffenestri mae conglfeini dyrchafedig o garreg nadd a meini clo. Ar ochr arall yr High Street, tebyg yw'r manylion ar dafarn yr Old Vaults, sef adeiladwaith o bedwar llawr a godwyd o frics tua chanol y ddeunawfed ganrif. Mae ei du blaen ar ffurf logia colofnog hyd at barapet sydd wedi'i ailadeiladu'n rhannol ynghyd â ffasâd o bedair ffenestr ddalennog.
Ref:DI2005_0571

Owner:
Unknown
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
2/8/2013
Gwelediadau:
1788
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment