Neuadd y Sir a Market Square, Dinbych
Disgrifiadau
Neuadd y Sir a Market Square
Gan i Ddeddf Uno 1536 greu Dinbych yn un o bedair canolfan weinyddol Cymru, fe greodd y statws hwnnw amodau ffafriol a hybodd yr ehangu ar fasnachu yn y dref. Cadarnhawyd pwysigrwydd Dinbych pan benodwyd Iarll Caerlŷr, ffefryn y Frenhines, yn Arglwydd Dinbych ym 1563, a dyna sefydlu dyfodol llewyrchus iddi fel tref farchnad y sir. I gyfnerthu safle gweinyddol a masnachol Dinbych, cododd Iarll Caerlŷr neuadd newydd yno, sef Neuadd y Sir, ym 1572. Ynddi yr oedd Neuadd Farchnad agored â cholofnau ar y llawr gwaelod a siambr y cyngor a'r llys bach ar y llawr cyntaf. Yn ystod y 1780au cafodd y neuadd ei haddasu drwy roi iddi do newydd, mynedfa arw a ffenestri newydd, gan gynnwys ffenestri Fenis. Mae'r rhesi o golofnau wedi'u hamgáu, a llyfrgell y dref yw'r adeilad erbyn hyn.
Yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg yr oedd Dinbych yn enwog am ei menigwyr a'i sidanwyr, a chawsai urddau crefft arbenigol eu sefydlu yno. Wrth i'r holl fasnach ddatblygu, cynyddu hefyd wnaeth nifer y siopau, y gwestai, y tafarnau, a thai'r marsiandwyr. Yn hanesyddol, câi'r farchnad ei chynnal o Stryd Henllan ar hyd Lôn Sowter a High Street hyd at waelod Stryd y Dyffryn. Mae pen uchaf Stryd y Dyffryn yn dal i gynnwys llawer o dai tref bonedd y sir o'r ddeunawfed ganrif, a cheir tŷ masnachwr o'r unfed ganrif ar bymtheg yn Lôn Sowter. Dywedir i Mytton a Myddleton, dau o Gadfridogion y Senedd yn ystod y Rhyfel Cartref, droi Tafarn y Bull yn bencadlys wrth iddynt warchae Castell Dinbych, sef y castell yr oedd y Brenhinwr, y Cyrnol Salesbury, yn ceisio'i amddiffyn.
Ref:DI2006_1081
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment