Gastell a thref Dinbych, 1947
Disgrifiadau
Y Castell a'r Dref Furiog
Mae'n fwy na thebyg i gastell Dinbych gael ei godi ar safle preswylfa amddiffynnol gynharach ar fryncyn creigiog uwchlaw Dyffryn Clwyd. Ar ôl i Edward I oresgyn Cymru, rhoddodd ef gantref Rhufoniog, sef y cantref yr oedd Dinbych yn brif anheddiad ynddo, i Henry de Lacy. Aeth de Lacy ati ym 1282 i godi castell a thref furiog dros y Goron gan ofyn i James of St George, prif saer maen Edward, am gyngor ynglŷn â'r cynllun. Mae siarter a roddwyd i'r holl ddynion a oedd yn byw y tu mewn i'r muriau yn dangos bod muriau'r dref, a gynhwysai 45 o diroedd bwrdais, yn gyflawn erbyn 1290. Gan fod llawer o fur y dref yn dal ar ei draed, gallwch ei weld yn glir o'r awyr.
Ref:DI2010_2196
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment